Menu
Home Page

Dosbarth 8 / Class 8 2018-19

 

 

Croeso i ddosbarth 8 Mr Rock

 

Croeso i ddosbarth 8. Mae 32 o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn y dosbarth.

Welcome to class 8. There are 32 Year 5 and 6 pupils in the class.

 

Ein thema am y tymor ydy 'Byd Hudol Roald Dahl' gan ein bod yn dathlu canmlwyddiant yr awdur poblogaidd Roald Dahl eleni.

Our theme is the 'Magical World of Roald Dahl' as we are celebrating the popular author Roald Dahl's centenary this year.

 

Yn ystod y tymor fe fyddwn ni'n astudio 2 lyfr gan Roald Dahl, sef Boy: Tales of Childhood a Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr.

During the term we will be studying 2 books written by Roald Dahl: Boy: Tales of Childhood and Charlie and the Great Glass Elevator.

 

Ein thema wyddonol am y tymor ydy Grymoedd. Ein thema hanesyddol am y tymor ydy'r 1970au gan fod Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr wedi cael ei gyhoeddi yn y degawd hwn.

Our scientific theme is Forces. Our historical theme is the 1970s as Charlie and the Great Glass Elevator was published in this decade.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Boy: Tales of Childhood

Charlie a'r Esgynnydd Mawr Gwydr

Newyddion Dosbarth 8/ Class 8's News:

 
Buon ni ar wibdaith y tymor hwn i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i weld arddangosfa o ddarluniau Quentin Blake. Roedd y plant wrth eu boddau'n gweld nifer o ddarluniau gwreiddiol Blake yn yr arddangosfa. Hefyd, buon ni i Ganolfan Mileniwm Cymru i gymryd rhan mewn gweithgareddau'n ymwneud â Roald Dahl. Cawsom ni hwyl a sbri yno!
We went on a trip this term to the National Museum Cardiff to see an exhibition of Quentin Blake's illustrations. The children were thrilled to see many of Blake's original illustrations in the exhibition. Also, we went to the Wales Millennium Centre to participate in activities relating to Roald Dahl. We had lots of fun there!

 
Cymeron ni ran mewn Twrnamaint Pêl-droed New Directions y tymor hwn. Roedd disgyblion o ddosbarth 7 ac 8 wedi cystadlu yn erbyn ysgolion eraill o Dde Cymru. Enillon ni 3 gêm, cawsom ni 2 gêm gyfartal a chollon ni 1 gêm. Roedd Mr Rock yn hynod o falch o'r tîm. Da iawn i'r plant a gymerodd rhan, sef Sam, Ethan, Tyler, William, Dion, Logan, Euan a Lexi. Seren y twrnamaint i Y.G.G. Bronllwyn oedd William.
We participated in the New Directions Football Tournament this term. Pupils from class 7 and 8 competed against other schools from South Wales. We won 3 games, drew 2 games and lost one game. Mr Rock was extremely proud of the team. Well done to the children who took part: Sam, Ethan, Tyler, William, Dion, Logan, Euan and Lexi. The player of the tournament for Y.G.G. Bronllwyn was William.

 

 

 


Top