Menu
Home Page

Dosbarth Pabi

Croeso i flwyddyn 5 a 6 ! 

Am gyfnod cyffrous ac arbennig ! Mae blwyddyn 5 a 6 yn flwyddyn fythgofiadwy gyda chymaint o brofiadau gwych ac unigryw ee Sportin Marvels, penwythnos yn Llangrannog, Glanllyn twrnamentau chwareon , tripiau , sioe gadael ar ddiwedd y flwyddyn ayb

Bydd cyfrifoldebau newydd i chi fel Bydis Meithrin, Eco bwyllgor, arwain ein Gwasanaeth Carolau, Swyddogion yr iard, Capteiniaid ein llysoedd a llawer mwy !

Mae disgwyliadau uchel iawn yn nosbarth Pabi. Bydd llawer o gyfarfodydd Pontio i Flwyddyn 6 yn digwydd gyda Miss Jones o YGG Cwm Rhondda gyda gwersi yn dechrau syth ar ol Nadolig. 

Rwy'n chwilio am ddysgwyr sy'n gallu mynd 'uwch nac uwch' ac yn gweud eu gorau glas. Byddaf yn cydweithio gyda'ch rhieni, athrawon YGG Cwm Rhondda ac wrth gwrs 'chi' er mwyn i ni lwyddo a chael y flwyddyn orau !

Cwrteisi, Caredigrwydd a Pharodrwydd i ddysgu yw ein moto ni ! Polie, Kind and ready to learn !

Pob lwc i bawb a chroeso !


Top